17 “Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn i'n gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth –
18 yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di'n ei ddweud amdana i.’
19 “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw.
20 Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’
21 “Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i'n mynd i dy anfon di'n bell oddi yma at bobl o genhedloedd eraill.’”
22 Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!”
23 Dyma nhw'n dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch i'r awyr.