22 Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!”
23 Dyma nhw'n dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch i'r awyr.
24 Felly dyma'r capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn i'r barics i gael ei groesholi gyda'r chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn.
25 Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”
26 Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”
27 Felly dyma'r capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?”“Ydw,” meddai Paul.
28 “Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten.“Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul.