25 Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”
26 Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”
27 Felly dyma'r capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?”“Ydw,” meddai Paul.
28 “Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten.“Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul.
29 Dyma'r rhai oedd yn mynd i'w groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni.
30 Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma fe'n gollwng Paul yn rhydd o'i gadwyni, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, a'i osod i sefyll o'u blaenau.