12 Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul.
13 Roedd dros bedwar deg o ddynion yn rhan o'r cynllwyn yma.
14 A dyma nhw'n mynd at yr archoffeiriad a'r arweinwyr Iddewig a dweud wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi mynd ar lw i beidio bwyta dim byd nes byddwn ni wedi lladd Paul.
15 Ond mae arnon ni angen eich help chi. Gofynnwch i'r capten ddod ag e o flaen y Sanhedrin eto, gan esgus eich bod chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Gwnawn ni ymosod arno a'i ladd ar y ffordd yma.”
16 Ond clywodd nai i Paul (mab ei chwaer) am y cynllwyn, ac aeth i'r barics i ddweud wrth Paul.
17 Dyma Paul yn galw un o'r swyddogion milwrol a dweud wrtho, “Dos â'r bachgen ifanc yma at y capten; mae ganddo rywbeth pwysig i'w ddweud wrtho.”
18 Gwnaeth hynny, ac esbonio i'r capten, “Paul y carcharor ofynnodd i mi ddod â'r bachgen yma atoch chi am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthoch chi.”