22 “Paid sôn wrth neb dy fod ti wedi dweud wrtho i am hyn,” meddai'r capten wrth iddo anfon y bachgen i ffwrdd.
23 Wedyn dyma'r capten yn galw dau o'i swyddogion, a gorchymyn iddyn nhw, “Paratowch fintai o ddau gant o filwyr erbyn naw o'r gloch heno i fynd i Cesarea. Hefyd saith deg o farchogion a dau gant o bicellwyr.
24 Paratowch geffyl i Paul hefyd, a mynd ag e'n saff at y llywodraethwr Ffelics.”
25 Yna ysgrifennodd y llythyr yma at Ffelics:
26 Oddi wrth Clawdiws Lysias, at eich Anrhydedd, y Llywodraethwr Ffelics:Cyfarchion!
27 Roedd y dyn yma wedi ei ddal gan yr Iddewon, ac roedden nhw ar fin ei ladd. Ond ar ôl deall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig dyma fi'n mynd â'm milwyr i'w achub.
28 Gan fy mod eisiau deall beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn, dyma fi'n mynd ag e i sefyll o flaen y Sanhedrin Iddewig.