10 Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun.
11 Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml.
12 Doeddwn i ddim hyd yn oed yn dadlau gydag unrhyw un, heb sôn am achosi cynnwrf yn y deml nac mewn unrhyw synagog, nac yn unman arall yn y ddinas.
13 A dydyn nhw ddim yn gallu profi'r cyhuddiadau yma yn fy erbyn i chwaith!
14 Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd Gristnogol. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi.
15 Dw i'n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy'n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae'r dynion eraill yma'n credu'r un peth!
16 Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill.