6 Ceisiodd halogi'r deml yn Jerwsalem hyd yn oed, a dyna pam wnaethon ni ei arestio.
8 Cewch ei groesholi eich hunan, i weld mai dyna'n union ydy'r sefyllfa.”
9 A dyma'r arweinwyr Iddewig eraill yn dechrau ymuno i mewn, a mynnu mai dyna'r gwir.
10 Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun.
11 Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml.
12 Doeddwn i ddim hyd yn oed yn dadlau gydag unrhyw un, heb sôn am achosi cynnwrf yn y deml nac mewn unrhyw synagog, nac yn unman arall yn y ddinas.
13 A dydyn nhw ddim yn gallu profi'r cyhuddiadau yma yn fy erbyn i chwaith!