1 Dridiau ar ôl iddo gyrraedd y dalaith, aeth Ffestus i Jerwsalem.
2 A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig yn mynd ato, i ddweud wrtho beth oedd y cyhuddiadau oedd ganddyn nhw yn erbyn Paul.
3 Dyma nhw'n gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno a'i ladd pan oedd ar ei ffordd).
4 Ond dyma Ffestus yn ateb: “Mae Paul yn y ddalfa yn Cesarea, a dw i'n mynd yn ôl yno'n fuan.
5 Caiff rhai o'ch arweinwyr chi fynd gyda mi a'i gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le.”
6 Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna'r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys.