15 “Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.
16 “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.
17 Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.
18 Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.
19 Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
20 Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.
21 Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”