2 “Y Brenin Agripa, dw i'n cyfri'n hun yn ffodus iawn mai o'ch blaen dw i'n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun.
3 Dych chi'n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a'r pynciau llosg sy'n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i'w ddweud.
4 “Mae'r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o'n i'n blentyn – y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem.
5 Maen nhw'n gwybod ers talwm, petaen nhw'n fodlon cyfaddef hynny, fy mod i wedi byw fel Pharisead, sef sect fwyaf caeth ein crefydd ni.
6 A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i'n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni yn dod yn wir.
7 Mae pobl Israel i gyd yn rhannu'r un gobaith – dyna pam maen nhw'n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A'r gobaith yma ydy'r rheswm pam mae'r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi.
8 “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw?