8 “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw?
9 Wrth gwrs, roeddwn innau ar un adeg yn meddwl fod rhaid i mi wneud popeth allwn i i wrthwynebu dilynwyr Iesu o Nasareth.
10 A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i'r carchar. Roeddwn i'n un o'r rhai oedd o blaid rhoi'r gosb eithaf iddyn nhw!
11 Roeddwn i'n mynd o un synagog i'r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio eu gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i'w herlid nhw.
12 “Dyna'n union oeddwn i'n ei wneud ryw ddiwrnod – roedd y prif offeiriaid wedi rhoi'r awdurdod a'r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus.
13 Roedd hi tua chanol dydd pan roeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul.
14 Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam rwyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’