1 Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius – aelod o'r Gatrawd Ymerodrol.
2 Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni.
3 Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen.
4 Dyma ni'n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu'n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus.