14 Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain.
15 Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny a cawson ni ein cario i ffwrdd ganddo.
16 Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda.
17 Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt.
18 Roedd y llong wedi ei churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn.
19 A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr!
20 Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.