25 Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.
26 Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”
27 Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.
28 Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.
29 Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.
30 Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.
31 Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”