20 Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”
21 Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti.
22 Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.”
23 Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Dduw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio eu cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia.
24 Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu.
25 Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia:
26 ‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.”