27 Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.’
28 Felly deallwch hyn – mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!”
30 Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i'w weld.
31 Roedd yn cyhoeddi'n gwbl hyderus fod Duw yn teyrnasu ac yn dysgu pobl am yr Arglwydd Iesu Grist, a doedd neb yn ei rwystro.