1 Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi.
2 Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml.
3 Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian.
4 Dyma'r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.”
5 Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw.