14 Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le.
15 Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith!
16 Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.
17 “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi.
18 Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef.
19 Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau.
20 Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu.