17 “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi.
18 Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef.
19 Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau.
20 Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu.
21 Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi.
22 Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi.
23 Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’