21 Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi.
22 Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi.
23 Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’
24 “Yn wir, roedd pob un o'r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai'n digwydd yn ein dyddiau ni.
25 Chi ydy'r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a'r ymrwymiad wnaeth Duw i'ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Trwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’
26 Pan ddaeth Duw â'i was Iesu i'r golwg, cafodd ei anfon atoch chi'n gyntaf, i'ch bendithio chi drwy droi pob un ohonoch chi o'ch ffyrdd drwg.”