8 a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw.
9 Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw,
10 ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.
11 Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.
12 Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol?
13 Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau.
14 Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le.