1 Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd.
2 Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw.
3 “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân – dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw.
4 Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”
5 Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia).
6 Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.
7 Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.