33 Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig.
34 Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’
35 “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!
36 Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.
37 “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’
38 Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni.
39 Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft!