1 Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw.O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.
2 Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu'n galaru'n fawr ar ei ôl.
3 Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio'r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i'r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a'u rhoi yn y carchar.
4 Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd.
5 Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno.
6 Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud.