17 Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw'n derbyn yr Ysbryd Glân.
18 Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth.
19 “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.
20 Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!
21 Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.
22 Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth.
23 Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”