20 Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!
21 Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.
22 Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth.
23 Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”
24 Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”
25 Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.
26 Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”