23 Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”
24 Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”
25 Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.
26 Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”
27 Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,
28 ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre.
29 Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.”