35 Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.
36 Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”
38 Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle.
39 Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o'r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo'i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen.
40 Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi'r newyddion da ym mhob un o'r trefi ar y ffordd.