4 Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd.
5 Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno.
6 Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud.
7 Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi eu parlysu neu'n gloff yn cael iachâd.
8 Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre.
9 Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben.
10 Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo.