1 Yn y cyfamser roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad
2 i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi'r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw'n gaeth i Jerwsalem.
3 Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o'r nefoedd o'i gwmpas.
4 Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam rwyt ti'n fy erlid i?”
5 “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti'n ei erlid.
6 Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.”