14 Mae'r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy'n credu ynot ti.”
15 Ond meddai'r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma'r dyn dw i wedi ei ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a'u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.
16 Bydda i'n dangos iddo y bydd e'i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.”
17 Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.”
18 Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.
19 Wedyn cymerodd rywbeth i'w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl.Arhosodd Saul gyda'r disgyblion yn Damascus am beth amser.
20 Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw.