17 Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.”
18 Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.
19 Wedyn cymerodd rywbeth i'w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl.Arhosodd Saul gyda'r disgyblion yn Damascus am beth amser.
20 Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw.
21 Roedd pawb a'i clywodd wedi eu syfrdanu. “Onid dyma'r dyn wnaeth achosi'r fath drafferth i'r rhai sy'n dilyn yr Iesu yma yn Jerwsalem? Roedden ni'n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio'r bobl hynny a'u rhoi yn y carchar.”
22 Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy'r Meseia.
23 Felly ar ôl peth amser dyma'r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i'w ladd.