30 Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw'n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref.
31 Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw'n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni'r Arglwydd, a'r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.
32 Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda.
33 Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi ei barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd.
34 Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.
35 Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded.
36 Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,