32 Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda.
33 Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi ei barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd.
34 Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.
35 Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded.
36 Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,
37 ond tua'r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a'i osod i orwedd mewn ystafell i fyny'r grisiau.
38 Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!”