6 Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.”
7 Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e yn sefyll yn fud; roedden nhw'n clywed y llais ond doedden nhw ddim yn gweld neb.
8 Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.
9 Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim.
10 Yn byw yn Damascus roedd disgybl o'r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o'r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!”“Ie, Arglwydd,” atebodd.
11 A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o'r enw Saul. Mae yno'n gweddïo.
12 Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o'r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.”