10 “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”
11 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Daw gelyn i amgylchu'r wlad,a bwrw i lawr dy amddiffynfeyddac ysbeilio dy geyrydd.”
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.”
13 “Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,”medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd.
14 “Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau,fe gosbaf allorau Bethel;torrir cyrn yr allor,a syrthiant i'r llawr.
15 Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf;derfydd am y tai ifori,a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.