Amos 7 BCN

Gweledigaeth o Locustiaid

1 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar ôl torri cnwd y brenin.

2 Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais,“O Arglwydd DDUW, maddau!Sut y saif Jacob,ac yntau mor fychan?”

3 Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. “Ni fydd hyn,” medd yr ARGLWYDD.

Gweledigaeth o Dân

4 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy dân, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd.

5 A dywedais,“O Arglwydd DDUW, paid!Sut y saif Jacob,ac yntau mor fychan?”

6 Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. “Ni fydd hyn chwaith,” medd yr Arglwydd DDUW.

Gweledigaeth o Linyn Plwm

7 Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.

8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd,“Wele fi'n gosod llinyn plwmyng nghanol fy mhobl Israel;nid af heibio iddynt byth eto.

9 Difodir uchelfeydd Isaaca distrywir cysegrleoedd Israel;a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.”

Amos ac Amaseia

10 Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau.

11 Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”

12 A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.

13 Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.”

14 Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;

15 ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’

16 Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD.“Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel,a phaid â llefaru yn erbyn tŷ Isaac.’

17 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas;fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf;rhennir dy dir â'r llinyn;byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan,ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9