Amos 5 BCN

Galarnad am Israel

1 Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, dŷ Israel:

2 “Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio,ac ni chyfyd eto;gadawyd hi ar lawr,heb neb i'w chodi.”

3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth dŷ Israel:“Y ddinas a anfonodd fila gaiff gant yn ôl;a'r un a anfonodd ganta gaiff ddeg yn ôl.”

4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel:“Ceisiwch fi, a byddwch fyw;

5 peidiwch â cheisio Bethel,nac ymweld â Gilgal,na theithio i Beerseba;oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal,ac ni bydd Bethel yn ddim.”

6 Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw—rhag iddo ruthro fel tân drwy dŷ Joseffa'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel—

7 chwi sy'n troi barn yn wermod,ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.

8 Ef a wnaeth Pleiades ac Orion;ef sy'n troi tywyllwch yn fore,ac yn tywyllu'r dydd yn nos.Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr,ac yn eu tywallt ar wyneb y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

9 Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,a daw distryw ar y gaer.

10 Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.

11 Felly, am ichwi sathru'r tlawd,a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—er ichwi godi tai o gerrig nadd,ni chewch fyw ynddynt;er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,ni chewch yfed eu gwin.

12 Canys gwn mor niferus yw'ch troseddauac mor fawr yw'ch pechodau—chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr,ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.

13 Felly tawed y doeth ar y fath amser,canys amser drwg ydyw.

14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,fel y byddwch fywac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,fel yr ydych yn honni ei fod.

15 Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,gofalwch am farn yn y porth;efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,wrth weddill Joseff.

16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd:“Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’Galwant ar y llafurwr i alaruac ar y galarwyr i gwynfan.

17 Bydd wylofain ym mhob gwinllan,oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.

Dydd yr ARGLWYDD

18 Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?Tywyllwch fydd, nid goleuni;

19 fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,ac arth yn ei gyfarfod;neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,a neidr yn ei frathu.

20 Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;caddug, heb lygedyn golau ynddo?

21 “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.

22 Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,ni allaf eu derbyn;ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.

23 Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf;ni wrandawaf ar gainc eich telynau.

24 Ond llifed barn fel dyfroedda chyfiawnder fel afon gref.

25 “A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel?

26 Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi—eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw—

27 oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus,” medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9