Amos 1 BCN

1 Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.

Geiriau Amos

2 Dywedodd,“Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chwyd ei lef o Jerwsalem;galara porfeydd y bugeiliaid,a gwywa pen Carmel.”

Barn Duw ar y Cenhedloedd Syria

3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Damascus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt ddyrnu Gileadâ llusg-ddyrnwyr haearn,

4 anfonaf dân ar dŷ Hasael,ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.

5 Drylliaf farrau pyrth Damascus,a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.

Philistia

6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Gasa,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfani'w caethiwo yn Edom,

7 anfonaf dân ar fur Gasa,ac fe ddifa ei cheyrydd.

8 Torraf ymaith y trigolion o Asdod,a pherchen y deyrnwialen o Ascalon;trof fy llaw yn erbyn Ecron,a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW.

Tyrus

9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Tyrus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom,ac anghofio cyfamod brawdol,

10 anfonaf dân ar fur Tyrus,ac fe ddifa ei cheyrydd.”

Edom

11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Edom,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddo ymlid ei frawd â chleddyf,a mygu ei drugaredd,a bod ei lid yn rhwygo'n barhausa'i ddigofaint yn dal am byth,

12 anfonaf dân ar Teman,ac fe ddifa geyrydd Bosra.”

Ammon

13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau'r Ammoniaid,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead,er mwyn ehangu eu terfynau,

14 cyneuaf dân ar fur Rabba,ac fe ddifa ei cheyryddâ bloedd ar ddydd brwydr,a chorwynt ar ddydd tymestl.

15 A chaethgludir eu brenin,ef a'i swyddogion i'w ganlyn,” medd yr ARGLWYDD.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9