1 Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion,y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria,gwŷr mawr y genedl bennaf,y rhai y mae tŷ Israel yn troi atynt.
2 Ewch trosodd i Calne ac edrychwch;oddi yno ewch i Hamath fawr,ac yna i lawr i Gath y Philistiaid.A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi?A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?
3 Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg,ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes;
4 yn gorwedd ar welyau iforiac yn ymestyn ar eich matresi;yn gwledda ar ŵyn o'r ddiadellac ar y lloi pasgedig;
5 yn canu maswedd i sain y nabl,ac fel Dafydd yn dyfeisio offerynnau cerdd;
6 yn yfed gwin fesul powlennaid,ac yn eich iro'ch hunain â'r olew gorau;ond heb boeni am ddinistr Joseff!
7 Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud;derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.
8 Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun;medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd:“Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob,ac yn casáu ei geyrydd;gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.”
9 Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw.
10 Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.”
11 Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn;bydd yn taro'r plasty yn deilchiona'r bwthyn yn siwrwd.
12 A garlama meirch ar graig?A ellir aredig môr ag ychen?Ond troesoch chwi farn yn wenwyn,a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
13 Llawenhau yr ydych am Lo-debar,a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunainy cymerasom ni Carnaim?”
14 “Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,”medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,“ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamathhyd at afon yr Araba.”