Amos 8 BCN

Gweledigaeth o Ffrwythau Haf

1 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf,

2 a gofynnodd ef, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Basgedaid o ffrwythau haf.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,“Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel;nid af heibio iddynt byth eto.

3 Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,“bod y cyrff mor niferusfel y teflir hwy'n ddisôn ym mhob man.”

Tynged Israel

4 Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenusac yn difa tlodion y wlad,

5 ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,inni gael gwerthu ŷd;a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,inni gael twyllo â chloriannau anghywir,

6 inni gael prynu'r tlawd am ariana'r anghenus am bâr o sandalau,a gwerthu ysgubion yr ŷd?”

7 Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.

8 Onid am hyn y cryna'r ddaearnes y galara'i holl drigolion,ac y cwyd i gyd fel y Neil,a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”

9 “Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,“gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd,a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.

10 Trof eich gwyliau yn alarua'ch holl ganiadau yn wylofain;rhof sachliain am eich llwynaua moelni ar eich pennau.Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab;bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.

11 “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW,“pan anfonaf newyn i'r wlad;nid newyn am fara, na syched am ddŵr,ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.

12 Crwydrant o fôr i fôrac o'r gogledd i'r dwyrain;ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD,ond heb ei gael.

13 “Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifaincyn llewygu o syched.

14 Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria,ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’,neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Beerseba’—fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9