4 A rua llew yn y goedwigpan fydd heb ysglyfaeth?A waedda'r llew ifanc o'i ffaupan fydd heb ddal dim?
5 A syrth aderyn ar y ddaearos nad oes magl iddo?A neidia'r groglath oddi ar y ddaearos nad yw wedi dal dim?
6 A genir utgorn yn y ddinasheb i'r bobl ddychryn?A ddaw trychineb i'r ddinasheb i'r ARGLWYDD ei anfon?
7 Ni wna'r Arglwydd DDUW ddimheb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.
8 Rhuodd y llew;pwy nid ofna?Llefarodd yr Arglwydd DDUW;pwy all beidio â phroffwydo?
9 Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria,ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”
10 “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”