1 Clywch y gair hwn, fuchod Basan,sydd ym mynydd Samaria,sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus,sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”:
2 Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnochpan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.
3 Ac ewch allan trwy'r bylchau,pob un ohonoch ar ei chyfer,ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.
4 “Dewch i Fethel a throseddu,i Gilgal a phechu fwyfwy;dygwch eich aberthau bob borea'ch degymau bob tridiau;