2 Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnochpan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.
3 Ac ewch allan trwy'r bylchau,pob un ohonoch ar ei chyfer,ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.
4 “Dewch i Fethel a throseddu,i Gilgal a phechu fwyfwy;dygwch eich aberthau bob borea'ch degymau bob tridiau;
5 offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.
6 “Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,ac eisiau bara ym mhob man;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
7 “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;rhoddais law ar un ddinas,a'i atal oddi ar un arall;glawiodd ar un cae,a gwywodd y cae na chafodd law;
8 crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinasi yfed dŵr, ond heb gael digon;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.