4 Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenusac yn difa tlodion y wlad,
5 ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,inni gael gwerthu ŷd;a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,inni gael twyllo â chloriannau anghywir,
6 inni gael prynu'r tlawd am ariana'r anghenus am bâr o sandalau,a gwerthu ysgubion yr ŷd?”
7 Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.
8 Onid am hyn y cryna'r ddaearnes y galara'i holl drigolion,ac y cwyd i gyd fel y Neil,a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”
9 “Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,“gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd,a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.
10 Trof eich gwyliau yn alarua'ch holl ganiadau yn wylofain;rhof sachliain am eich llwynaua moelni ar eich pennau.Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab;bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.