1 Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud,“Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd,a maluria hwy ar eu pennau i gyd;y rhai a adewir, fe'u lladdaf â'r cleddyf;ni ffy yr un ohonynt ymaith,ni ddianc yr un ohonynt.
2 Pe baent yn cloddio hyd at Sheol,fe dynnai fy llaw hwy oddi yno;pe baent yn dringo i'r nefoedd,fe'u dygwn i lawr oddi yno.
3 Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4 Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;cadwaf fy ngolwg arnynt,er drwg ac nid er da.”
5 Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,a'i holl drigolion yn galaru;bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,ac yn gostwng fel afon yr Aifft;