9 “Wele, yr wyf yn gorchymyn,ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloeddfel ysgwyd gogr,heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.
10 Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl â'r cleddyf,y rhai sy'n dweud, ‘Ni chyffwrdd dinistr â ni, na dod yn agos atom.’ ”
11 “Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd;trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion,a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,
12 fel y gallant goncro gweddill Edoma'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.
13 “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,a phob bryn yn llifo ohono.
14 Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,palant erddi a bwyta'u cynnyrch.
15 Fe'u plannaf yn eu gwlad,ac ni ddiwreiddir hwy byth etoo'r tir a rois iddynt,”medd yr ARGLWYDD dy Dduw.