1 Cân y caniadau, eiddo Solomon.
2 Cusana fi â chusanau dy wefusau,oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,
3 ac arogl dy bersawr yn hyfryd,a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;dyna pam y mae merched yn dy garu.
4 Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;cymer fi i'th ystafell, O frenin.Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;mor briodol yw iddynt dy garu!
5 O ferched Jerwsalem,er fy mod yn dywyll fy lliwfel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,yr wyf yn brydferth.