1 Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemauo waith crefftwr medrus.
2 Y mae dy fogail fel ffiol gronnad yw byth yn brin o win cymysg;y mae dy fol fel pentwr o wenithwedi ei amgylchynu gan lilïau.
3 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig.
4 Y mae dy wddf fel tŵr ifori,a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,ger mynedfa Bath-rabbim;y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.
5 Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmela gwallt dy ben fel porffor,a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.
6 Mor brydferth, mor hardd wyt,fy anwylyd, y fwyaf dymunol.
7 Y mae dy gorff fel palmwydden,a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.
8 Dywedais, “Dringaf y balmwydden,a gafael yn ei brigau.”Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,ac arogl dy anadl fel afalau,
9 a'th wefusau fel y gwin gorauyn llifo'n esmwyth mewn cariad,ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.
10 Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.
11 Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.
12 Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,a'i blodau yn agor,a'r pomgranadau yn blodeuo;yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.
13 Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,ffrwythau newydd a hena gedwais i ti, fy nghariad.