Caniad Solomon 2 BCN

1 Yr wyf fel rhosyn Saron,fel lili'r dyffrynnoedd.

2 Ie, lili ymhlith drainyw f'anwylyd ymysg merched.

3 Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwigyw fy nghariad ymysg y bechgyn.Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod,ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.

4 Cymerodd fi i'r gwindy,gyda baner ei gariad drosof.

5 Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,a'm hadfywio ag afalau,oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.

6 Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

7 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

Yr Ail Ganiad

8 Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

9 Y mae fy nghariad fel gafrewig,neu hydd ifanc;dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,yn edrych trwy'r ffenestri,ac yn syllu rhwng y dellt.

10 Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,“Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth;

11 oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,ciliodd y glaw a darfu;

12 y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,daeth yn amser i'r adar ganu,ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;

13 y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.Cod yn awr, f'anwylyd,a thyrd, fy mhrydferth.”

14 Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,yng nghysgod y clogwyni,gad imi weld dy wyneb,a chlywed dy lais,oherwydd y mae dy lais yn swynol,a'th wyneb yn brydferth.

15 Daliwch inni'r llwynogod,y llwynogod bychain,sy'n difetha'r gwinllannoeddpan yw'r blodau ar y gwinwydd.

16 Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,a minnau'n eiddo iddo ef;y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.

17 Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,tro ataf, fy nghariad,a bydd yn debyg i afrewigneu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8